cyfansoddwyr cymru - composers of wales
aelodau - members
• rhestr aelodau
• list of members

• cysylltwch â ni
• contact us
ymaelodi - joining
• manteision ymaelodi
• benefits of membership

• ceisiwch am aelodaeth
• apply for membership

• cysylltwch â ni
• contact us
cylchlythyr - newsletter
• cylchlythyr
• newsletter

• cysylltwch â ni
• contact us
dolenni - links
• dolenni allanol
• external links

• cysylltwch â ni
• contact us
hysbysebion - notices
• digwyddiadur
• diary of events
• hysbysiadau
• notices
• cysylltwch â ni
• contact us
mewnol - internal
• Mewngofnodi
• Log in


Andrew Powell www.andrewpowell.com

ANDREW POWELL was educated at King’s College School, Wimbledon and King’s College, Cambridge, where he received a Master’s degree in Music. Whilst at school he studied piano with Malcolm Troup, percussion with James Blades and composition with Cornelius Cardew. Prior to going to Cambridge he attended composition classes with Stockhausen and Ligeti at Darmstadt. At Cambridge he was a founder member with Roger Smalley and Tim Souster of the live electronics group “Intermodulation,” which gave first performances of several works by Stockhausen, as well as performing works by all of its members; he as also a member of the progressive rock group "Henry Cow" with Fred Frith and Tim Hodgkinson. His first professional engagement after leaving Cambridge was as a soloist at the “Proms”: he subsequently worked with several orchestras - principally the BBC Symphony Orchestra with Pierre Boulez, and in a group with the Japanese percussion virtuoso Stomu Yamash’ta.

He worked as arranger/conductor on dozens of albums for “rock” artists as diverse as Cockney Rebel & Cliff Richard, John Miles & Al Stewart, Mick Fleetwood & Peter Hoffman, Chris Rea & Il Divo, as producer & arranger for Kate Bush’s first two albums, and for artists such as Chris de Burgh, Kansas, and Elaine Paige. He was arranger, conductor and co-composer for The Alan Parsons Project’s 15 albums. He has co-written songs with Al Stewart, David Pack, Alan Parsons, Stuart Elliott and Tim Rice. He wrote scores for the films Ladyhawke (Michelle Pfeiffer, dir. Richard Donner,) Rocket Gibraltar (Burt Lancaster, dir. Dan Petrie,) ClosedCircuit (Film 4: Keith Allen) and has contributed music to many other films and T.V. series worldwide.

His catalogue of concert music includes several works written for “Intermodulation”, such as Plasmogeny, The Old Pavilion, and Terilament. His Suite for Brass Quintet with Piano was commissioned and first performed by Equale Brass with the composer at the piano in 1986 at the University of Wales, Cardiff. Falstaff for brass band, commissioned by Peter Bassano, was premièred at the Cité de la Musique in Paris in July 1998 by the Grimethorpe Colliery Band conducted by Bassano, and has since been performed all over the U.K. Plasmogeny II for trumpet, live electronics and tape, was written for John Wallace and first performed by him and the composer at the University of Richmond, Virginia in May 1999, and has been recorded by them for a "Deux-Elles" C.D. “Within Those Radiances...” was written for the Wallace Collection and first performed by them in London in December 2000.

Other commissions include Concerto Melyn Coch, commissioned by the Parc & Dare Band, and first performed by them with James Watson in June 2001, Fish Throw Stones, written for the LCO in 2002, Pied Beauty for a cappella mixed choir, and a concerto for piano, trumpet, percussion & strings. Tair Cerdd Sanctaidd, for baritone, harp, male voice choir & brass band, was also commissioned by the Parc & Dare Band and premièred by them in June 2006 with Gareth Rhys-Davies and Catrin Finch. Variations Towards a Theme for two trumpets & live electronics was premièred in London in September 2006 by Bella Tromba. Living Stones, for SATB, organ, 4 trumpets & 3 trombones was co-commissioned by Artswave & St. Mary’s Church, Fishguard, and first performed in St. David’s Cathedral in October 2007. His work for cello and harp Glasiad y Dydd Dros Ben Dinas, was premiered in March 2008 by Nia Harries and Claire Jones at the City of London Festival: Living Stones Fanfare recevied its first performance in July 2008 at St. David's Hall, Cardiff. Caban Coed was premiered in May 2009 on S4C.
He has recently finished a work for piano and tape - Under the Worm's Head - for his former piano teacher Malcolm Troup and a cantata based on the "Red Lady of Paviland" - Y Dyn Unig - which he has written with Menna Elfyn, which was premiered at the Lyric Theatre Carmarthen on 1st April by Robyn Lyn, Claire Jones, Côr Seingar, Carmarthen Schools Children's Choir, and Buury Port Brqss Band, conducted by Craig Roberts.
He is currently writing a children's opera and a Suite for large orchestra, a commission from KKL Konzertsaal Luzern, Switzerland
ANDREW POWELL

Cafodd Andrew Powell ei addysg yn Ysgol Coleg y Brenin, Wimbledon a Choleg y Brenin, Caergrawnt, lle cafodd radd Meistr mewn Cerddoriaeth. Yn yr ysgol, astudiodd y piano dan arweiniad Malcolm Troup, offerynnau taro dan arweiniad James Blades, a chyfansoddi dan arweiniad Cornelius Cardew. Cyn astudio yng Nghaergrawnt, mynychodd ddosbarthiadau cyfansoddi gyda Stockhausen a Ligeti yn Darmstadt. Tra'n astudio yng Nghaergrawnt, sefydlodd y grŵp electroneg byw"Intermodulation" gyda Roger Smalley a Tim Souster: perfformiodd y grŵp sawl perfformiad cyntaf o weithiau gan Stockhausen, a hefyd o weithiau gan bob aelod o'r grŵp: roedd e hefyd yn aelod o’r grŵp roc “Henry Cow” gyda Fred Frith a Tim Hodgkinson. Ei swydd broffesiynol gyntaf ar ôl gadael Caergrawnt oedd fel unawdydd yn y "Proms": gweithiodd ar ôl hynny gyda sawl cerddorfa - gan fwyaf gyda'r BBC Symphony Orchestra a'i arweinydd Pierre Boulez ac, yn ogystal, mewn grŵp roc achlysurol gyda'r offerynnwr taro meistrolgar o Siapan, Stomu Yamash'ta.

Gweithiodd fel trefnydd/arweinydd ar nifer o albymau gydag artistiaid "roc" annhebyg i'w gilydd fel Cockney Rebel a Cliff Richard, John Miles ac Al Stewart, Mick Fleetwood a Peter Hoffman, Chris Rea ac Il Divo: ac fel cynhyrchydd a threfnydd i ddwy o albymau cyntaf Kate Bush, a hefyd i artistiaid fel Chris de Burgh, Kansas ac Elaine Paige. Roedd e'n drefnydd, arweinydd a chyd-gyfansoddwr
i'r grŵp "The Alan Parsons Project" ar 15 o albymau. Mae e wedi cyd-gyfansoddi caneuon gyda Al Stewart, David Pack, Alan Parsons, Stuart Elliott a Tim Rice. Cyfansoddodd gerddoriaeth i'r ffilmiau Ladyhawke (Michelle Pfeiffer, cyf. Richard Donner) Rocket Gibraltar (Burt Lancaster, cyf. Dan Petrie), Closed Circuit (Keith Allen, Film 4) a chyfrannodd gerddoriaeth i lawer o ffilmiau a rhaglenni teledu ledled y byd.

Mae ei gatalog o gerddoriaeth gyngherddol yn cynnwys gweithiau gwahanol sydd wedi cael eu cyfansoddi i "Intermodulation" - sef, Plasmogeny, The Old Pavilion, a Terilament. Cafodd ei Suite for Brass Quintet with Piano ei gomisiynu a'i berfformio gyntaf gan "Equale Brass", gyda'r cyfansoddwr yn canu'r piano ym 1986 ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Cafodd Falstaff, i fand pres, ei gomisiynu gan
Peter Bassano, a chafodd ei berfformio gyntaf yn y "Cité de la Musique" yn Paris ym mis Gorffennaf 1998 gan y Grimethorpe Colliery Band a’i arwain gan Bassano, a chafodd y gwaith ei berfformio ar ôl hynny drwy’r Deyrnas Unedig. Cafodd Plasmogeny II, i utgorn, electroneg byw a thâp, ei ysgrifennu i John Wallace, a chafodd ei berfformio gyntaf gydag ef a'r cyfansoddwr ym Mhrifysgol Richmond, Virginia, ym mis Mai 1999, ac fe’i recordiwyd ganddyn nhw ar gryno ddisc y cwmni "Deux-Elles." Mae Within Those Radiances.... wedi cael ei gyfansoddi i'r Wallace Collection, a chafodd ei berfformiad cyntaf ganddyn nhw ym mis Rhagfyr 2000.

Mae ei gomisiynau eraill yn cynnwys Concerto Melyn Coch, a gomisiynwyd gan Fand Parc a Dâr: chwaraeodd y band y gwaith am y tro cyntaf gyda James Watson (utgorn) a Craig Roberts (arweinydd) ym mis Mai 2001: Fish Throw Stones a ysgrifennwyd i'r LCO yn 2002: Pied Beauty i gôr cymysg digyfeiliant a chonsierto i utgorn, piano, offer taro a thannau. Comisiynodd Band Parc a Dâr hefyd Tair Cerdd Sanctaidd i faritôn, telyn, côr meibion a band pres, gwaith a gafodd ei berfformiad cyntaf ym mis Mehefin 2006 gyda Gareth Rhys-Davies a Catrin Finch. Cafodd Variations Towards a Theme i ddau utgorn ac electroneg byw ei première yn Llundain ym mis Medi 2006 gan "Bella Tromba." Cafodd Living Stones, i gôr cymysg, pedwar utgorn, tri thrombôn ac organ, ei gyd-gomisiynu gan Eglwys y Santes Fair, Abergwaun ag "Artswave", a chafodd ei berfformio gyntaf yn
Eglwys Gadeiriol Tyddewi ym mis Hydref 2007. Perfformiwyd ei waith i soddgrwth a thelyn, Glasiad y Dydd dros Ben Dinas yn gyntaf yn “The City of London Festival” gan Nia Harries a Claire Jones ym mis Mawrth 2008; perfformiwyd am y tro cyntaf Preiddiau’r Cymry (geiriau: Menna Elfyn) ym mis Mai 2008 yng Nghaerdydd gan Catherine Harper (soprano), Janine Saxon (ffliwt) a Graham Jones (clarinét), a Living Stones Fanfare yn y Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ym mis Gorffenaf 2008 gan Bres y CBCDC, arweinydd Kevin Price. Cafodd Caban Coed ei berfformiad cyntaf ym mis Mai 2009 ar S4C.

Mae e newydd orffen gwaith ar gyfer piano a thap – Under the Worm’s Head – a’i ysgrifennu i’w hen athro piano Malcolm Troup, a hefyd canawd – Y Dyn Unig – am stori y “Ddynes goch o Ben-y-Fai”, cyd-ysgrifennwyd gyda Menna Elfyn: cafodd y gwaith ei berfformiad cyntaf ym Mis Ebrill 2010, gyda Robyn Lyn , Claire Jones, Côr Seingar, Côr Plant Gaerfyrddin a band pres Porth Tywyn o dan arweiniad Craig Roberts. Ar hyn o bryd mae e'n gweithio ar opera i blant ac gwaith i gerddorfa mawr - comisiwn o'r KKL Konzertsaal Luzern yn y Swistir.